Abro (rhywiol a rhamantaidd)
Gair a ddefnyddir i ddisgrifio pobl sydd â chyfeiriadedd rhywiol a/neu ramantaidd hylifol sy’n newid dros amser, neu drwy gydol eu bywyd. Efallai y byddan nhw’n defnyddio termau gwahanol i ddisgrifio eu hunain dros amser.
Ace
Term ymbarél a ddefnyddir yn benodol i ddisgrifio diffyg profiad, profiad amrywiol, neu brofiadau achlysurol o atyniad rhywiol. Mae hyn yn cwmpasu pobl arywiol yn ogystal â phobl sy’n arddel hunaniaeth ddemirywiol a llwyd-rywiol. Efallai y bydd pobl ace sy’n profi atyniad rhamantaidd neu atyniad rhywiol achlysurol hefyd yn defnyddio termau fel hoyw, deurywiol, lesbiaidd, syth a chwiar ar y cyd ag arywiol i ddisgrifio cyfeiriad eu hatyniad rhamantaidd neu rywiol.
Gallwch ddysgu mwy am hunaniaethau ace ar ein Hwb Ace.
Ace ac aro / y sbectrwm ace ac aro
Termau ymbarél a ddefnyddir i ddisgrifio grŵp eang o bobl sy’n profi diffyg profiad, profiad amrywiol, neu brofiadau achlysurol o atyniad rhamantaidd a/neu rywiol, gan gynnwys diffyg atyniad. Gallai pobl sy’n arddel hunaniaethau o dan y termau ymbarél yma ddefnyddio un neu fwy o blith amrywiaeth eang o dermau i ddisgrifio eu hunain, gan gynnwys (ymhlith termau eraill) arywiol, ace, aromantig, aro, demi, llwyd ac abro. Gallai pobl ddefnyddio termau fel hoyw, deurywiol, lesbiaidd, syth a chwiar ar y cyd ag ace ac aro i egluro cyfeiriad eu hatyniad rhamantaidd neu rywiol os a phryd maen nhw’n ei brofi.
Dyma bum peth y dylech ei wybod am bobl aro.
Alo (rhywiol a rhamantaidd)
Mae pobl Alo yn profi atyniad rhywiol a rhamantaidd, a dydyn nhw ddim yn arddel hunaniaeth ar y sbectrwm ace ac aro. Mae alo i hunaniaethau ace ac aro, yn debyg i beth yw syth i hunaniaethau sbectrwm LHD+. Mae’n bwysig defnyddio geiriau sy’n cyfartalu profiadau, neu fel arall mae’r gwrthwyneb i ace ac aro yn dod y peth ‘normal’, sydd felly’n stigmateiddio.
Aro
Term ymbarél a ddefnyddir yn benodol i ddisgrifio diffyg profiad, profiad amrywiol, neu brofiadau achlysurol o atyniad rhamantaidd. Mae hyn yn cwmpasu pobl aramantaidd yn ogystal â phobl sy’n arddel hunaniaeth ddemiramantaidd a llwyd-ramantaidd. Efallai y bydd pobl aro sy’n profi atyniad rhywiol neu atyniad rhamantaidd achlysurol hefyd yn defnyddio termau fel hoyw, deurywiol, lesbiaidd, syth a chwiar ar y cyd ag aro i ddisgrifio cyfeiriad eu hatyniad.
Aramantaidd
Rhywun nad yw’n profi atyniad rhamantaidd. Mae rhai pobl aramantaidd yn profi atyniad rhywiol, ond nid pawb. Efallai y bydd pobl aramantaidd sy’n profi atyniad rhywiol neu atyniad rhamantaidd achlysurol hefyd yn defnyddio termau fel hoyw, deurywiol, lesbiaidd, syth a chwiar ar y cyd ag aramantaidd i ddisgrifio cyfeiriad eu hatyniad.
Arywiol
Rhywun nad yw'n profi atyniad rhywiol. Mae rhai pobl arywiol yn profi atyniad rhamantaidd, ond nid pawb. Efallai y bydd pobl arywiol sy’n profi atyniad rhamantaidd neu atyniad rhamantaidd achlysurol hefyd yn defnyddio termau fel hoyw, deurywiol, lesbiaidd, syth a chwiar ar y cyd ag arywiol i ddisgrifio cyfeiriad eu hatyniad rhamantaidd.
Cynghreiriad
Rhywun syth a/neu gydryweddol (fel arfer) sy'n cefnogi aelodau o'r gymuned LHDT.
Deurywiol
Term ymbarél yw deurywiol sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio cyfeiriadedd rhywiol, rhamantaidd a/neu emosiynol tuag at fwy nag un rhywedd.
Mae amrywiaeth eang o dermau y gall pobl ddeurywiol eu defnyddio i ddisgrifio eu hunain, gan gynnwys, ymhlith eraill, deurywiol, bi, panrywiol, pan, cwiar, a hunaniaethau eraill nad ydyn nhw’n unrhywiol neu'n unrhamantaidd.
Dysgwch fwy am brofiadau deurywiol ar ein Hwb Deurywiol.
Deuffobia
Ofn neu atgasedd o rywun sy'n arddel hunaniaeth ddeurywiol sy'n seiliedig ar ragfarn neu agweddau, credoau neu farn negyddol am bobl ddeurywiol. Mae bwlio deuffobaidd yn targedu pobl sydd, neu y tybir eu bod, yn ddeurywiol.
Bwtsh
Term a defnyddir mewn diwylliant LHD yw bwtsh i ddisgrifio rhywun sy’n mynegi eu hunain mewn ffordd nodweddiadol wrywaidd.
Mae hunaniaethau eraill o fewn cwmpas bwtsh, fel ‘bwtsh meddal’ a ‘bwtch carreg’. Ddylech chi ddim defnyddio’r termau yma am rywun oni bai eich bod chi’n gwybod eu bod nhw’n eu harddel.
Cydryweddol neu Cis
Rhywun y mae eu hunaniaeth rhywedd yr un peth â'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni. Dyma'r term am bawb heblaw pobl draws.
Dod allan
Pan fydd rhywun yn dweud wrth rywun/eraill am y tro cyntaf am eu cyfeiriadedd a/neu hunaniaeth rhywedd.
Dysgwch fwy am ddod allan ac am gefnogi pobl eraill ar eu taith.
Camenwi
Defnyddio'r enw a roddwyd i rywun adeg eu geni, er eu bod nhw wedi newid eu henw ers hynny. Mae'r term yn aml yn cael ei gysylltu â phobl draws sydd wedi newid eu henwau fel rhan o'r broses o drawsnewid.
Demi (rhywiol a rhamantaidd)
Term ymbarél a ddefnyddir i ddisgrifio pobl sydd efallai ddim ond yn teimlo atyniad rhywiol neu ramantaidd at bobl maen nhw wedi ffurfio cysylltiad emosiynol â nhw. Gallai pobl ddefnyddio termau fel hoyw, deurywiol, lesbiaidd, syth a chwiar ar y cyd â demi i egluro cyfeiriad eu hatyniad rhamantaidd neu rywiol yn ôl eu profiad.
Femme
Term a defnyddir mewn diwylliant LHD yw femme i ddisgrifio rhywun sy’n mynegi eu hunain mewn ffordd nodweddiadol fenywaidd.
Mae rhai hunaniaethau eraill o fewn y term femme, fel ‘femme isel’, ‘femme uchel’ a ‘femme caled’. Ddylech chi ddim defnyddio’r termau yma am rywun oni bai eich bod chi’n gwybod eu bod nhw’n eu harddel.
Hoyw
Mae’r term yma’n cyfeirio at ddyn sydd â chyfeiriadedd rhywiol a/neu ramantaidd tuag at ddynion. Mae hefyd yn derm cyffredinol ar gyfer rhywioldeb hoyw a lesbiaidd – mae rhai menywod yn defnyddio'r term hoyw i ddiffinio eu hunain yn hytrach na lesbiaidd. Efallai y bydd rhai pobl anneuaidd hefyd yn arddel y term yma.
Rhywedd
Mae’n cael ei fynegi’n aml ar sail gwrywdod a benyweidd-dra, ac i raddau helaeth, mae rhywedd yn cael ei bennu gan ddiwylliant a’i gymryd yn ganiataol ar sail y categori rhyw y rhoddwyd pobl ynddo adeg eu geni.
Dysfforia rhywedd
Term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio sefyllfa pan fydd rhywun yn profi anesmwythder neu drallod oherwydd bod gwrthdaro rhwng eu hunaniaeth rhywedd a'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni.
Hwn hefyd yw'r diagnosis clinigol ar gyfer rhywun nad ydyn nhw'n teimlo'n gyfforddus gyda'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni.
Mynegiant rhywedd
Sut mae unigolyn yn dewis mynegi eu rhywedd, yng nghyd-destun disgwyliadau cymdeithasol o rywedd. Fodd bynnag, nid yw unigolyn nad yw'n cydymffurfio â'r disgwyliadau cymdeithasol o ran rhywedd o reidrwydd yn arddel hunaniaeth draws.
Hunaniaeth rhywedd
Ymdeimlad greddfol person o'u rhywedd nhw eu hunain, boed hynny'n wrywaidd, yn fenywaidd neu'n rhywbeth arall (gweler anneuaidd isod), a all fod yn cyfateb, neu ddim yn cyfateb, i'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni.
Ailbennu rhywedd
Ffordd arall o ddisgrifio proses drawsnewid rhywun. Fel arfer bydd mynd trwy broses ailbennu rhywedd yn golygu cael rhyw fath o driniaeth feddygol, ond gall hefyd olygu newid enwau, rhagenwau, gwisgo'n wahanol a byw yn y rhywedd maen nhw'n ei arddel.
Mae ailbennu rhywedd yn nodwedd sydd wedi'i diogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac mae'r term yn cael ei ddehongli ymhellach yng nghod ymarfer Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae'n derm sy'n destun llawer o drafodaeth ac anghytuno, ac yn derm y mae Grŵp Cynghori Traws Stonewall yn teimlo ddylai gael ei adolygu.
Tystysgrif Cydnabod Rhywedd
Mae’r dystysgrif yma’n galluogi pobl draws i gael eu cydnabod yn gyfreithiol yn y rhywedd maen nhw wedi'i ddatgan ac i gael tystysgrif geni newydd. Nid pob person traws fydd yn gwneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd, ac ar hyn o bryd mae'n rhaid i chi fod dros 18 oed i wneud cais.
Does dim angen Tystysgrif Cydnabod Rhywedd i newid eich marciau rhywedd yn y gwaith nac i newid eich rhywedd yn gyfreithiol ar ddogfennau eraill fel eich pasbort.
Cymhwysedd Gillick
Term sy'n cael ei ddefnyddio mewn cyfraith feddygol i benderfynu a yw plentyn (o dan 16 oed) yn gallu cydsynio i'w triniaeth feddygol eu hunain, heb orfod cael caniatâd gan riant neu heb orfod rhoi gwybod i rieni.
Llwyd (rhywiol a rhamantaidd)
Caiff ei alw’n llwyd-A hefyd, a therm ymbarél yw hwn sy’n disgrifio pobl sy’n profi atyniad yn achlysurol, yn anaml, neu ddim ond o dan amodau penodol. Gallai pobl ddefnyddio termau fel hoyw, deurywiol, lesbiaidd, syth a chwiar ar y cyd â llwyd i egluro cyfeiriad eu hatyniad rhamantaidd neu rywiol yn ôl eu profiad.
Heterorywiol/syth
Term sy’n cyfeirio at ddyn sydd â chyfeiriadedd rhamantaidd a/neu rywiol tuag at fenywod, neu fenyw sydd â chyfeiriadedd rhamantaidd a/neu rywiol tuag at ddynion.
Cyfunrywiol
Mae hwn yn derm mwy meddygol o bosib, i ddisgrifio rhywun sydd â chyfeiriadedd rhamantaidd a/neu rywiol tuag at rywun o'r un rhywedd â nhw. Mae'r term 'hoyw' yn fwy cyffredin bellach.
Homoffobia
Ofn neu atgasedd tuag at rywun yn seiliedig ar ragdybiaeth neu agwedd, cred neu safbwynt negyddol am bobl lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol. Mae bwlio homoffobaidd yn targedu pobl sydd, neu y tybir eu bod, yn lesbiaidd, yn hoyw neu’n ddeurywiol.
Rhyngryw
Term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun a allai fod â nodweddion biolegol y ddau ryw, neu rywun nad yw eu nodweddion biolegol yn cyd-fynd â rhagdybiaethau cymdeithasol am yr hyn sy'n gwneud rhywun yn wrywaidd neu'n fenywaidd.
Gall pobl ryngryw arddel hunaniaeth wrywaidd, fenywaidd neu anneuaidd.
Mae Stonewall yn gweithio gyda grwpiau rhyngryw i ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth i bartneriaid a rhanddeiliaid am feysydd lle mae pobl ryngryw yn profi anfantais ond, ar ôl trafod gydag aelodau o'r gymuned ryngryw, nid yw'n cynnwys materion rhyngryw fel rhan o'i chylch gorchwyl ar hyn o bryd.
Lesbiaidd
Mae’r term yma’n cyfeirio at fenyw sydd â chyfeiriadedd rhamantaidd a/neu rywiol tuag at fenywod. Efallai y bydd rhai pobl anneuaidd hefyd yn arddel y term yma.
Gallwch ddysgu mwy am brofiadau lesbiaidd yn ein Hwb Lesbiaidd.
Lesboffobia
Ofn neu atgasedd tuag at rywun gan eu bod nhw’n lesbiaidd neu y tybir eu bod nhw’n lesbiaidd.
LHDTC+
Yr acronym ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws, cwiar, cwestiynu ac ace.
Anneuaidd
Term ymbarél i ddisgrifio pobl nad yw eu hunaniaeth rhywedd yn ffitio'n syml i ddewis deuaidd o 'ddyn' neu 'fenyw'. Mae hunaniaethau anneuaidd yn amrywiol a gallant gynnwys pobl sy'n arddel rhai elfennau o hunaniaethau deuaidd, tra bod pobl anneuaidd eraill yn eu gwrthod yn llwyr.
Darllenwch sut brofiad yw bod yn anneuaidd yng ngwledydd Prydain heddiw.
Cyfeiriadedd
Term ymbarél yw cyfeiriadedd sy'n disgrifio atyniad unigolyn at bobl eraill. Gall yr atyniad yma fod yn rhywiol (cyfeiriadedd rhywiol) a/neu'n rhamantaidd (cyfeiriadedd rhamantaidd). Mae'r termau yma'n cyfeirio at ymdeimlad unigolyn o hunaniaeth ar sail eu hatyniadau, neu ddiffyg atyniadau.
Mae'r gwahanol fathau o gyfeiriadedd yn cynnwys, ymhlith eraill, lesbiaidd, hoyw, deurywiol, ace a syth.
Datgelu heb gydsyniad neu owtio
Pan fydd cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd person hoyw, lesbiaidd, deurywiol neu draws yn cael ei ddatgelu i rywun arall heb eu cydsyniad.
Person â hanes traws
Rhywun sy'n arddel hunaniaeth wrywaidd neu fenywaidd neu ddyn neu fenyw, ond oedd yn y categori rhyw arall adeg eu geni. Mae hwn yn cael ei ddefnyddio fwyfwy gan bobl i gydnabod hanes traws.
Panrywiol
Term sy’n cyfeirio at rywun nad yw ei atyniad rhamantaidd a/neu rywiol tuag at eraill wedi'i gyfyngu gan ryw neu rywedd.
5 camsyniad cyffredin am banrywioldeb.
Pasio
Pan fydd rhywun yn cael eu hystyried, ar gipolwg, yn ddyn cydryweddol neu'n fenyw gydryweddol.
Cydryweddol yw'r term am rywun y mae eu hunaniaeth rhywedd yr un peth â'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni. Gallai hyn gynnwys nodweddion rhywedd corfforol (gwallt neu ddillad) a/neu ymddygiad sy'n cael ei gysylltu'n hanesyddol neu'n ddiwylliannol â rhywedd penodol.
Partneriaethau platonig
Gallai pobl sydd ar y sbectrwm ace a/neu aro gael partneriaethau platonig. Perthnasau yw’r rhain lle mae lefel uchel o gyd-ymrwymiad a all gynnwys rhannu penderfyniadau bywyd, rhannu trefniadau byw, a chyd-rianta plant. Gall y partneriaethau yma gynnwys mwy na dau o bobl. Fel pobl alorywiol ac aloramantaidd, gallai pobl ar y sbectrwm ace ac aro fod yn fonogamaidd neu’n aml-gariad.
Rhagenw
Geiriau rydyn ni'n eu defnyddio i gyfeirio at rywedd rhywun wrth sgwrsio – er enghraifft, 'fe' neu 'hi'. Mae'n well gan rai i bobl gyfeirio atyn nhw mewn iaith sy'n niwtral o ran rhywedd a defnyddio rhagenwau fel 'nhw' neu 'ze'/'zir' yn lle 'fe', 'fo' neu 'hi'.
Cwiar
Term a ddefnyddir gan bobl sydd eisiau gwrthod labeli penodol ar gyfer cyfeiriadedd rhamantaidd, cyfeiriadedd rhywiol a/neu hunaniaeth rhywedd yw cwiar. Gall fod yn ffordd hefyd o wrthod normau tybiedig y gymuned LHDT (hiliaeth, maintiaeth, ablaeth ac ati). Er bod rhai pobl LHDT yn gweld y gair fel un sarhaus, cafodd ei adennill ar ddiwedd yr wythdegau gan y gymuned gwiar, sydd wedi'i berchnogi.
Cwestiynu
Y broses o archwilio eich cyfeiriadedd rhywiol a/neu'ch hunaniaeth rhywedd chi eich hunan.
Cyfeiriadedd rhamantaidd
Atyniad rhamantaidd unigolyn at bobl eraill, neu ddiffyg atyniad o’r fath. Ynghyd â chyfeiriadedd rhywiol, dyma sy'n ffurfio hunaniaeth cyfeiriadedd unigolyn.
Mae Stonewall yn defnyddio'r term 'cyfeiriadedd' fel term ymbarél i gyfeirio at gyfeiriadedd rhywiol a rhamantaidd.
Rhyw
Mae person yn cael ei roi mewn categori rhyw ar sail nodweddion rhyw sylfaenol (organau cenhedlu) a'r swyddogaethau atgynhyrchu. Weithiau mae'r termau 'rhyw' a 'rhywedd' yn cael eu defnyddio'n gyfnewidiol i olygu 'gwrywaidd' neu 'fenywaidd'.
Cyfeiriadedd rhywiol
Atyniad rhywiol unigolyn at bobl eraill, neu ddiffyg atyniad o’r fath. Ynghyd â chyfeiriadedd rhamantaidd, dyma sy'n ffurfio hunaniaeth cyfeiriadedd unigolyn.
Mae Stonewall yn defnyddio'r term 'cyfeiriadedd' fel term ymbarél i gyfeirio at gyfeiriadedd rhywiol a rhamantaidd.
Sbectrwm
Term a ddefnyddir i gynnwys amrywiaeth o hunaniaethau sydd â nodwedd wraidd gyffredin neu sy’n cynnwys profiadau tebyg.
Traws
Term ymbarél i ddisgrifio pobl nad yw eu rhywedd yr un peth â'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni, neu lle nad yw eu rhywedd yn ffitio’n syml i'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo.
Gall pobl draws ddefnyddio un neu fwy o blith amrywiaeth eang o dermau i ddisgrifio eu hunain, gan gynnwys (ymhlith termau eraill) trawsryweddol, trawsrywiol, cwiar-ryweddol (GQ), rhywedd hylifol, anneuaidd, rhywedd amrywiol, croeswisgwr, di-rywedd, aryweddol, trydydd rhywedd, deu-ryweddol, dyn traws, menyw draws, traws wrywaidd, traws fenywaidd a neutrois.
Gallwch ddysgu mwy am brofiadau traws ar ein Hwb Traws.
Dyn trawsryweddol
Term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun a roddwyd mewn categori rhyw benywaidd adeg ei eni, ond sy'n arddel hunaniaeth dyn ac yn byw fel dyn. Yn aml bydd y term yn cael ei fyrhau i 'dyn traws', neu weithiau FTM, sef talfyriad o'r Saesneg am 'benyw-i-wryw'.
Menyw drawsryweddol
Term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun a roddwyd mewn categori rhyw gwrywaidd adeg ei geni, ond sy'n arddel hunaniaeth menyw ac yn byw fel menyw. Yn aml bydd y term yn cael ei fyrhau i 'menyw draws', neu weithiau MTF, sef talfyriad o'r Saesneg am 'gwryw-i-fenyw'.
Trawsnewid
Y camau y gallai person traws eu cymryd er mwyn byw yn y rhywedd maen nhw'n ei arddel. Bydd proses drawsnewid pawb yn golygu pethau gwahanol. I rai bydd yn golygu triniaeth feddygol o ryw fath, fel therapi hormonau a llawdriniaeth, ond nid pob person traws sy'n gallu nac yn dymuno cael triniaeth o'r fath.
Gall trawsnewid hefyd olygu pethau fel dweud wrth ffrindiau a theulu, gwisgo'n wahanol a newid dogfennau swyddogol.
Trawsffobia
Ofn neu atgasedd at rywun yn seiliedig ar y ffaith eu bod yn draws, gan gynnwys gwadu eu hunaniaeth rhywedd neu wrthod ei derbyn. Gall trawsffobia gael ei dargedu at bobl sy'n draws, neu at bobl y mae rhai yn credu eu bod yn draws.
Trawsrywiol
Defnyddiwyd y term yma yn y gorffennol fel term mwy meddygol (yn debyg i gyfunrywiol) i gyfeirio at rywun nad yw eu rhywedd yr un peth â'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni, neu lle mae gwrthdaro rhwng y ddau.
Mae'r term yn dal i gael ei ddefnyddio gan rai, ond mae'n well gan lawer ddefnyddio'r term traws neu trawsryweddol.
Anghanfyddadwy
Mae meddyginiaeth HIV (triniaeth wrth-retrofeirysol, neu ART) yn gweithio drwy leihau faint o’r feirws sydd yn y gwaed i lefelau anghanfyddadwy. Mae hyn yn golygu bod y lefelau HIV mor isel fel nad oes modd pasio’r feirws ymlaen. Gelwir hyn yn llwyth feiraol anghanfyddadwy, neu fod yn anghanfyddadwy.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Ymddiriedolaeth Terrence Higgins.