Rheolydd Data (“y Sefydliad”): Stonewall Equality Ltd
Cyflwyniad
Fel rhan o bob proses recriwtio, mae (y Sefydliad) yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol, neu ddata personol, sy'n ymwneud ag ymgeiswyr am swyddi. Gall y Sefydliad gadw'r wybodaeth bersonol hon ar bapur neu'n electronig.
Mae'r Sefydliad yn ymroddedig i fod yn dryloyw ynghylch sut mae'n trin eich gwybodaeth bersonol, i amddiffyn preifatrwydd a diogelwch eich gwybodaeth bersonol ac i fodloni ei rwymedigaethau diogelu data o dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol ("GDPR") a Deddf Diogelu Data 2018. Diben yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw sicrhau eich bod yn ymwybodol o sut a pham y byddwn ni'n casglu'ch gwybodaeth bersonol yn ystod y broses recriwtio. O dan y GDPR, mae'n ofynnol i ni roi gwybod i chi pa wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i bob ymgeisydd am swydd, p'un a ydynt yn ymgeisio am swydd yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy asiantaeth gyflogi. Nid yw'n amodol ar gontract.
Mae'r Sefydliad wedi penodi Rheolydd Data i oruchwylio cydymffurfiaeth gyda'r hysbysiad preifatrwydd hwn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn neu ynghylch y modd rydyn ni'n trin eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data: privacy@stonewall.org.uk
Egwyddorion diogelu data
O dan y GDPR, mae chwech egwyddor diogelu data y mae'n rhaid i'r Sefydliad gydymffurfio â nhw. Mae'r rhain yn golygu bod rhaid i'r wybodaeth rydyn ni'n ei dal amdanoch chi:
- Gael ei phrosesu mewn modd cyfreithlon, teg a thryloyw.
- Gael ei chasglu dim ond at ddibenion cyfreithlon, sydd wedi'u hegluro'n glir wrthych, ac ni chaniateir ei phrosesu ymhellach mewn modd nad yw'n gydnaws â'r dibenion hynny.
- Fod yn ddigonol, yn berthnasol ac yn gyfyngedig i'r hyn sy'n hanfodol mewn perthynas â'r dibenion hynny.
- Fod yn gywir a, lle bo angen, wedi'i chadw'n gyfredol.
- Beidio cael ei chadw mewn ffordd sy'n golygu bod modd eich adnabod drwyddi am yn hirach nag sydd angen at y dibenion hynny.
- Gael ei phrosesu mewn ffordd sy'n sicrhau y caiff y data ei ddiogelu mewn modd priodol.
Y Sefydliad sy'n gyfrifol am yr egwyddorion hyn, ac mae'n rhaid iddo allu dangos ei fod yn cydymffurfio â nhw. Gelwir hyn yn atebolrwydd.
Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi?
Mae gwybodaeth bersonol yn cynnwys unrhyw wybodaeth am unigolyn y gellir adnabod yr unigolyn drwyddi, boed hynny'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Nid yw'n cynnwys data di-enw, hynny yw data lle mae pob nodwedd y gellir adnabod unigolyn drwyddi wedi'u tynnu. Mae "categorïau arbennig" o wybodaeth bersonol hefyd, a gwybodaeth bersonol am euogfarnau a throseddau, y mae angen eu diogelu ar lefel uwch gan eu bod yn fwy sensitif eu natur. Mae'r categorïau arbennig o wybodaeth bersonol yn cynnwys gwybodaeth am darddiad ethnig neu hil unigolyn, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth ag undebau llafur, iechyd, bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol a data genetig a biometrig.
Mae'r Sefydliad yn casglu, yn defnyddio ac yn prosesu ystod o wybodaeth bersonol amdanoch yn ystod y broses recriwtio. Mae hyn yn cynnwys (fel sy'n berthnasol):
- eich manylion cyswllt, gan gynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn a'ch cyfeiriad e-bost personol
- gwybodaeth bersonol sydd wedi'i chynnwys mewn CV, ffurflen gais, llythyr eglurhaol neu nodiadau cyfweliad*
- geirdaon
- gwybodaeth am eich hawl i weithio ym Mhrydain a chopïau o ddogfennau sy'n brawf o'ch hawl i weithio
- copïau o dystysgrifau cymhwyster
- copi o'ch trwydded yrru
- dogfennau eraill ar gyfer gwirio cefndir
- manylion am eich sgiliau, cymwysterau, profiad a hanes gweithio gyda chyflogwyr eraill
- gwybodaeth am eich cyflog presennol, gan gynnwys hawliau pensiwn a budd-daliadau
- eich aelodaeth o gyrff proffesiynol
Gall y Sefydliad gasglu, defnyddio a phrosesu'r categorïau arbennig canlynol o'ch gwybodaeth bersonol hefyd yn ystod y broses recriwtio (fel sy'n berthnasol):
- p'un a oes gennych anabledd y mae angen i'r Sefydliad wneud addasiadau rhesymol ar eu cyfer yn ystod y broses recriwtio
- gwybodaeth am darddiad ethnig neu hil, credoau crefyddol neu athronyddol a chyfeiriadedd rhywiol
- gwybodaeth am euogfarnau a throseddau.
Sut ydyn ni'n casglu eich gwybodaeth bersonol?
Mae'r Sefydliad yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi yn ystod y broses recriwtio un ai yn uniongyrchol gennych chi, neu ar adegau gan drydydd parti megis asiantaeth gyflogi. Mae'n bosib y byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol gan drydydd partïon eraill hefyd, fel geirdaon gan gyflogwyr presennol a blaenorol, gwybodaeth gan ddarparwyr gwiriadau cefndir, gwybodaeth gan asiantaethau gwirio credyd a gwiriadau cofnod troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Heblaw am asiantaethau cyflogi, dim ond ar ôl gwneud cynnig cyflogaeth neu i ddod i gytundeb â chi y byddwn yn ceisio gwybodaeth bersonol gan drydydd partïon yn ystod y broses recriwtio, a byddwn yn rhoi gwybod i chi ein bod yn gwneud hynny.
Nid ydych o dan rwymedigaeth statudol na chytundebol i roi gwybodaeth bersonol i'r Sefydliad yn ystod y broses recriwtio.
Mae'n bosib y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw mewn gwahanol lefydd, gan gynnwys ar eich cofnod cais, yn system rheoli Adnoddau Dynol y Sefydliad ac mewn systemau technoleg gwybodaeth eraill, fel y system e-bost.p>
Pam a sut ydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol?
Dim ond pan fo'r gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny y byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Gelwir hyn yn sail gyfreithiol ar gyfer prosesu. Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol o dan un neu fwy o'r amgylchiadau canlynol:
- pan fo angen i ni wneud hynny er mwyn cymryd camau, yn ôl eich cais, cyn ymrwymo i gontract gyda chi, neu er mwyn ymrwymo i gontract gyda chi
- pan fo angen i ni gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol
- pan fo hynny'n hanfodol ar gyfer ein buddiannau dilys (neu rai trydydd parti), a lle nad yw eich buddiannau neu eich hawliau sylfaenol neu ryddid yn drech na'n buddiannau ni.
Mae angen pob math o wybodaeth bersonol sydd wedi'i restru o dan "Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi?" arnon ni yn bennaf er mwyn ein galluogi ni i gymryd camau, yn ôl eich cais chi, i ymrwymo i gontract gyda chi, neu er mwyn ymrwymo i gontract gyda chi, ac i'n galluogi ni i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol. Mewn rhai achosion, mae'n bosib y byddwn hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol lle mae'n hanfodol gwneud hynny er mwyn cyflawni ein buddiannau dilys (neu rai trydydd parti), oni bod eich buddiannau neu eich hawliau sylfaenol a'ch rhyddid yn drech na'n buddiannau ni. Mae ein buddiannau dilys yn cynnwys: cyflawni ein busnes drwy gyflogi cyflogeion, gweithwyr a chontractwyr; rheoli'r broses recriwtio; cynnal diwydrwydd dyladwy mewn perthynas â darpar staff a chyflawni gwaith gweinyddu mewnol effeithiol.
Rydyn ni'n prosesu, neu byddwn ni'n prosesu, eich gwybodaeth bersonol er mwyn:
- rheoli'r broses recriwtio ac i asesu eich addasrwydd ar gyfer cyflogaeth neu gytundeb*
- penderfynu i bwy i gynnig swydd
- cydymffurfio â'n gofynion a'n rhwymedigaethau statudol a/neu reoleiddiol, e.e. gwirio eich hawl i weithio ym Mhrydain
- cydymffurfio â'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i ymgeiswyr am swydd anabl a'r rhwymedigaethau gwahaniaethu ar sail anabledd eraill
- sicrhau cydymffurfiaeth â'ch hawliau statudol
- sicrhau gwaith Adnoddau Dynol, rheoli staff a gweinyddu busnes effeithiol
- monitro cyfle cyfartal
- ein galluogi ni i sefydlu, ymarfer neu amddiffyn yn erbyn hawliadau cyfreithiol posib.
Dylid nodi ei bod yn bosib y byddwn ni'n prosesu eich gwybodaeth bersonol heb eich caniatâd, mewn cydymffurfiaeth â'r rheolau hyn, lle bo hyn yn ofynnol neu wedi'i ganiatáu gan y gyfraith.
Beth os nad ydych chi'n darparu gwybodaeth bersonol?
Os nad ydych chi'n darparu gwybodaeth bersonol benodol pan ofynnir amdani, mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu prosesu eich cais am swydd yn iawn neu o gwbl, na fyddwn ni'n gallu ymrwymo i gontract gyda chi, neu na fydd modd i ni gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol. Mae'n bosib na fyddwch chi'n gallu arfer eich hawliau statudol chwaith.
Pam a sut ydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth sensitif?
Fyddwn ni ddim ond yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol sensitif, sy'n cynnwys categorïau o wybodaeth bersonol a gwybodaeth am euogfarnau a throseddau, pan fo'r gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny.
Caiff rhai categorïau o wybodaeth bersonol, e.e. gwybodaeth am eich iechyd ac am euogfarnau a throseddau, eu prosesu fel bod modd i ni gyflawni neu arfer ein rhwymedigaethau neu'n hawliau o dan y gyfraith cyflogaeth ac yn unol â'n polisi diogelu data.
Mae'n bosib y byddwn hefyd yn prosesu gwybodaeth am eich iechyd ac am euogfarnau a throseddau pan fo gennym gydsyniad ysgrifenedig clir gennych. Yn yr achos hwn, byddwn yn darparu'r holl fanylion i chi o ran y wybodaeth yr hoffem ei chael a'r rheswm rydym ei heisiau, fel y gallwch ystyried yn iawn p'un a ydych chi'n cydsynio ai peidio. Eich dewis chi yn llwyr yw cydsynio ai peidio. Gallwch dynnu'r cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg.
Dyma'r dibenion yr ydym yn prosesu, neu y byddwn yn prosesu, gwybodaeth am iechyd ac am euogfarnau a throseddau ar eu cyfer:/p>
- i asesu eich addasrwydd am gyflogaeth neu gytundeb
- i gydymffurfio â gofynion a rhwymedigaethau statudol a/neu reoleiddiol e.e. cynnal gwiriadau o gofnodion troseddol
- cydymffurfio â'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i ymgeiswyr am swydd anabl a'r rhwymedigaethau gwahaniaethu ar sail anabledd eraill
- sicrhau cydymffurfiaeth â'ch hawliau statudol
- i bennu a ydych chi'n holliach i weithio
- sicrhau gwaith Adnoddau Dynol, rheoli staff a gweinyddu busnes effeithiol
- i fonitro cyfle cyfartal*
Os yw'r Sefydliad yn prosesu categorïau arbennig eraill o wybodaeth bersonol, hynny yw gwybodaeth am eich tarddiad ethnig neu hil, credoau crefyddol neu athronyddol a chyfeiriadedd rhywiol, gwneir hyn er mwyn monitro cyfle cyfartal ym maes recriwtio ac yn unol â'n polisi diogelu data yn unig. Mae gwybodaeth bersonol y mae'r Sefydliad yn ei defnyddio at y dibenion hyn un ai yn ddi-enw neu caiff ei chasglu gyda'ch cydsyniad ysgrifenedig clir, y gallwch ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. Eich dewis chi yn unig yw p'un ai i ddarparu gwybodaeth bersonol o'r fath.
Mae'n bosib y byddwn yn defnyddio eich categorïau arbennig o wybodaeth bersonol, a gwybodaeth am euogfarnau a throseddau, yn achlysurol pan fo'u hangen ar y sefydliad, i ymarfer neu i amddiffyn hawliau cyfreithiol.
Newid diben/h3>
Dim ond at y dibenion y casglwyd hi y byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol, hynny yw ar gyfer yr ymarferiad recriwtio y gwnaethoch gais amdani.
Fodd bynnag, os nad yw eich cais am swydd yn llwyddiannus, mae'n bosib y bydd y Sefydliad yn dymuno cadw eich gwybodaeth bersonol ar ffeil rhag ofn y bydd swyddi addas yn codi yn y dyfodol gennym. Byddwn yn gofyn am eich cydsyniad cyn cadw eich gwybodaeth bersonol ar ffeil at y diben hwn. Gallwch dynnu'r cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg.
Pwy all gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol?
Mae'n bosib y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu'n fewnol yn y Sefydliad at ddibenion yr ymarferiad recriwtio, a gyda'n cleient sydd â'r swydd rydych chi'n gwneud cais amdani.
Ni fydd y Sefydliad yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â thrydydd partïon yn ystod y broses recriwtio.
Os yw eich cais am swydd yn llwyddiannus, yna bydd ein cleient yn arwain ar y cynnig cyflogaeth neu gytundeb. Ar y cam hwnnw, byddant yn rhoi gwybod i chi gyda phwy y byddan nhw'n rhannu eich gwybodaeth bersonol, gan gynnwys trydydd partïon (a'u hasiantau dynodedig), gan gynnwys:
- sefydliadau allanol i gynnal gwiriadau cyn cyflogaeth a gwiriadau hanes cyflogaeth
- y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, i gael gwiriad o gofnod troseddol
- cyn-gyflogwyr, i gael geirdaon
- ymgynghorwyr proffesiynol, fel cyfreithwyr
- darparwyr allanol fel darparwyr y gyflogres ac Adnoddau Dynol
Sut mae'r Sefydliad yn diogelu eich gwybodaeth bersonol?
Mae gan y Sefydliad fesurau ar waith i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol. Mae ganddo bolisïau, gweithdrefnau a mesurau rheoli mewnol ar waith i geisio atal eich gwybodaeth bersonol rhag cael ei cholli'n ddamweiniol, ei dinistrio, ei diwygio, ei datgelu neu ei defnyddio, neu rhag i rywun gael mynediad ati heb awdurdod. Yn ogystal, mae mynediad at eich gwybodaeth bersonol wedi'i gyfyngu i gyflogeion, gweithwyr, asiantau, contractwyr a thrydydd partïon eraill sydd angen gwybod at ddibenion busnes i gyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau eu swydd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y mesurau hyn gan ein Rheolydd Data.
Lle caiff eich gwybodaeth bersonol ei rhannu â thrydydd partïon, rydym yn ei gwneud yn ofynnol i bob trydydd parti gymryd mesurau diogelwch technegol a chyfundrefnol priodol i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a'i thrin â dyletswydd cyfrinachedd ac yn unol â deddfau diogelu data. Dim ond at ddibenion penodol ac yn unol â'n cyfarwyddiadau ysgrifenedig y byddwn yn caniatáu iddynt brosesu eich gwybodaeth bersonol, ac nid ydym yn caniatáu iddynt ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at eu dibenion eu hunain.
Mae gan y Sefydliad weithdrefnau ar waith i ymdrin ag achosion tybiedig o danseilio diogelwch data, a byddwn yn rhoi gwybod i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (neu awdurdod goruchwylio neu reoleiddiwr arall perthnasol) ac i chi os oes achos tybiedig o'r fath lle mae gofyn cyfreithiol i ni wneud hynny.
Am ba mor hir mae'r Sefydliad yn cadw eich gwybodaeth bersonol?
Dim ond am y cyfnod y bydd ei hangen i gyflawni'r dibenion y casglwyd ac y proseswyd hi y bydd y Sefydliad yn cadw eich gwybodaeth bersonol.
Os nad yw eich cais am gyflogaeth neu gytundeb yn llwyddiannus, fel arfer bydd y Sefydliad yn dal eich gwybodaeth bersonol am chwe mis ar ôl i'r ymarferiad recriwtio perthnasol ddod i ben, ond mae hyn yn amodol ar: (a) unrhyw ofynion statudol neu ofyniad cyfreithiol, treth, iechyd a diogelwch, adrodd neu gyfrifo ar gyfer data neu gofnodion penodol, a (b) dargadw rhai mathau o wybodaeth bersonol am hyd at chwe blynedd i amddiffyn yn erbyn risg gyfreithiol e.e. pe gallent fod yn berthnasol i hawliad cyfreithiol posib mewn tribiwnlys, Llys Sirol neu Uchel Lys. Os ydych chi wedi cydsynio i'r Sefydliad gadw eich gwybodaeth bersonol ar ffeil rhag ofn fod swyddi addas yn y dyfodol, bydd y Sefydliad yn dal eich gwybodaeth bersonol am chwe mis ar ôl diwedd yr ymarferiad recriwtio perthnasol neu tan i chi dynnu eich cydsyniad yn ôl os yw hynny'n gynt.
Os yw eich cais am gyflogaeth neu gytundeb yn llwyddiannus, bydd gwybodaeth bersonol a gasglwyd yn ystod y broses recriwtio yn cael ei hanfon at ein cleient a fydd wedyn yn arwain ar y broses gyflogi.
Bydd gwybodaeth bersonol nad yw'n cael ei chadw bellach yn cael ei dinistrio neu ei dileu'n barhaol o'n systemau technoleg gwybodaeth mewn modd diogel ac effeithiol, a byddwn yn ei gwneud yn ofynnol bod trydydd partïon hefyd yn dinistrio neu'n dileu gwybodaeth bersonol o'r fath lle bo hynny'n berthnasol.
O dan rai amgylchiadau mae'n bosib y byddwn yn dileu eich enw o'ch gwybodaeth bersonol fel na fydd modd eich adnabod o'r wybodaeth bellach. Mewn achos o'r fath, mae'n bosib y byddwn ni'n cadw gwybodaeth o'r fath am gyfnod hirach.
Eich hawliau mewn perthynas â'ch gwybodaeth bersonol
Fel gwrthrych data, mae gennych nifer o hawliau statudol. Yn amodol ar amodau penodol, ac o dan rai amgylchiadau, mae gennych hawl:
- i ofyn i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol - fel arfer caiff hyn ei adnabod fel cais gwrthrych am wybodaeth, ac mae'n eich galluogi chi i dderbyn copi o'r wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch chi ac i wirio ein bod ni'n ei phrosesu'n unol â'r gyfraith
- i ofyn am gael cywiro eich gwybodaeth bersonol - mae hyn yn eich galluogi i ofyn y caiff gwybodaeth bersonol nad yw'n gywir neu'n gyflawn ei chywiro
- i ofyn am gael dileu eich gwybodaeth bersonol - mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni ddileu neu dynnu eich gwybodaeth bersonol lle nad oes rheswm da i barhau i'w phrosesu e.e. nid oes ei hangen bellach mewn perthynas â'r diben y casglwyd hi'n wreiddiol
- i gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol - mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni ymatal rhag prosesu eich gwybodaeth dros dro e.e. os ydych chi'n herio ei chywirdeb ac felly eisiau i ni ddilysu ei chywirdeb
- i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol - mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni bedio â phrosesu eich gwybodaeth bersonol lle rydym yn dibynnu ar fuddiannau dilys y busnes fel sail gyfreithiol ar gyfer prosesu, a bod rhywbeth yn berthnasol i'ch sefyllfa benodol chi sy'n golygu eich bod chi'n penderfynu gwrthwynebu prosesu ar y sail hon
- cludadwyedd data - mae hyn yn rhoi'r hawl i chi ofyn am gael trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i barti gwahanol fel bod modd i chi ei haildefnyddio ar draws gwasanaethau gwahanol at eich dibenion eich hunain.
Os ydych chi'n dymuno ymarfer un o'r hawliau hyn, cysylltwch â'n Rheolydd Data. Mae'n bosib y bydd angen i ni ofyn am wybodaeth benodol gennych er mwyn gwirio eich hunaniaeth a'ch hawl i gael mynediad at yr wybodaeth bersonol neu i arfer un o'ch hawliau eraill. Mesur diogelwch yw hwn i sicrhau na chaiff eich gwybodaeth bersonol ei datgelu i unrhyw un nad oes ganddynt hawl i'w derbyn.
O dan yr amgylchiadau cyfyngedig lle rydych wedi rhoi eich cydsyniad i brosesu eich gwybodaeth bersonol at ddiben penodol, mae gennych hawl i dynnu eich cydsyniad yn ôl ar gyfer y prosesu penodol hwnnw ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar gyfreithlondeb y prosesu yn seiliedig ar eich cydsyniad cyn ei dynnu'n ôl. Os ydych chi'n dymuno tynnu eich cydsyniad yn ôl, cysylltwch â'n Rheolydd Data. Unwaith i ni dderbyn hysbysiad eich bod wedi tynnu eich cydsyniad yn ôl, ni fyddwn yn parhau i brosesu eich gwybodaeth bersonol at y diben y cytunoch chi iddo yn wreiddiol, oni bai bod sail gyfreithiol arall i'w phrosesu.
Os ydych chi o'r farn nad yw'r Sefydliad wedi cydymffurfio â'ch hawliau diogelu data, mae gennych hawl i wneud cwyn wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar unrhyw adeg. Awdurdod goruchwylio Prydain ar gyfer materion diogelu data yw Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Trosglwyddo gwybodaeth bersonol y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop
The Organisation will not transfer your personal information to countries outside the European Economic Area.
Penderfyniadau awtomataidd - Mae penderfyniadau awtomataidd yn digwydd pan fo system electronig yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i wneud penderfyniad heb ymyrraeth gan bobl.
Nid ydym yn rhagweld y bydd unrhyw benderfyniad recriwtio'n cael ei wneud amdanoch chi yn llwyr seiliedig ar benderfyniad awtomataidd, gan gynnwys proffilio.
Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Mae'r Sefydliad yn cadw'r hawl i ddiweddaru neu ddiwygio'r hysbysiad preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Byddwn yn anfon hysbysiad preifatrwydd newydd atoch pan fyddwn yn gwneud newidiadau neu ddiweddariadau sylweddol. Mae'n bosib y byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi os byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol mewn ffyrdd eraill.
Cysylltu - Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn neu ynghylch y ffordd rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â'n Rheolydd Data drwy:
Swyddog Diogelu Data: privacy@stonewall.org.uk