Yn ymateb i’r cyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg, dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru;
'Mae Stonewall Cymru heddiw yn croesawu’r cyhoeddiad y bydd gan bob disgybl yng Nghymru mynediad at Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACaRh) yn y cwricwlwm newydd o 2022 ymlaen.
‘Gwyddwn fod ACaRh amserol, effeithiol ac o safon uchel yn arf pwerus i ganiatáu pob person ifanc i allu cael perthnasoedd iachus a gwneud penderfyniadau gwybodus am eu llesiant. Mi fydd y newidiadau i ACaRh yn help i bobl ifanc lywio ystod eang o faterion, wrth weithio tuag at sicrhau iechyd a lles plant Cymru. Mae addysg LHDT-cynhwysol yn allweddol er mwyn sicrhau bod pob person ifanc yn cael gweld eu hunain a’u teuluoedd yn yr hyn maent yn ei ddysgu. Mae’n hefyd yn sicrhau bod pob person ifanc yn tyfu fyny yn deall amrywiaeth y byd a’r bobl o’u cwmpas.
‘Fel rhiant, rwyf yn falch o’r newyddion heddiw, ac anogaf rieni a chymunedau i ddysgu mwy am gynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer ACaRh. Nid addysg rhyw yn unig yw hyn, mi fydd yr addysg yn llawer mwy cyfannol ac eang er mwyn rhoi’r sgiliau, gallu a’r wybodaeth y maen ei hangen i dyfu fyny yn hapus ac yn iach mewn byd sy’n newid yn gyflym.
‘Mae'n holl bwysig bod Llywodraeth Cymru yn grymuso gweithwyr proffesiynol yn y byd addysg gyda’r sgiliau a'r adnoddau cywir sydd eu hangen i addysgu ACaRH cynhwysol yng Nghymru.
Cyhoeddwyd Ionawr 21, 2020