E-ddysgu gyda Stonewall
Modiwlau hyfforddi ar-lein ar gyfer staff ysgolion, coleg a gwasanaethau plant a phobl ifanc
Fel sefydliad LHDT mwyaf Ewrop, mae Stonewall wedi treulio dros 30 mlynedd yn gweithio tuag at fyd lle mae gan bob plentyn a pherson ifanc fynediad i addysg gynhwysol LHDT.
Mae ein tîm profiadol yn falch o fod wedi cefnogi miloedd o ysgolion, colegau, awdurdodau lleol a gwasanaethau plant a phobl ifanc i herio bwlio a dathlu amrywiaeth.
Gan ddefnyddio ein blynyddoedd o brofiad o hyfforddi staff addysg, rydym wedi datblygu cyfres o gyrsiau e-ddysgu a fydd yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i chi gefnogi plant a phobl ifanc LHDT, yn ogystal â'ch helpu i ddod yn lleoliad cynhwysol LHDT.
Rhaglen Hyrwyddwyr Gwanasanaethu Plant a Phobl ifanc
Mae ein rhaglen Hyrwyddwyr Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc yn helpu awdurdodau lleol a sefydliadau plant a phobl ifanc i roi cynhwysiant LHDT wrth wraidd eu gwasanaethau i gefnogi plant a phobl ifanc. Rydym yn cynnig cymorth i'n haelodau ddyfeisio atebion, offer arloesol, pwrpasol i werthuso a gwella eich polisïau a'ch arferion, a chyfoeth o gymorth arbenigol gan gynnwys cyngor, hyfforddiant ac adnoddau wedi'u teilwra.
Darganfod mwy