Donate

Mae ein perthynas â chi yn bwysig iawn i ni. Heb eich cefnogaeth chi, fyddai dim modd i ni gyflawni ein cenhadaeth o greu byd lle mae pawb yn cael ei dderbyn yn ddieithriad.

Oherwydd hynny, rydyn ni am wneud yn siŵr y gallwch chi ymddiried ynddon ni, a bod gennych chi ffydd yn y ffordd rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei rhannu â ni. Mae'r polisi yma'n esbonio mewn modd clir a thryloyw sut rydyn ni'n casglu eich gwybodaeth, sut rydyn ni'n ei defnyddio, a sut rydyn ni'n ei chadw'n ddiogel.

Yn y polisi, byddwn yn trafod:

Pwy ydyn ni

Ni yw Stonewall Equality Limited, elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (rhif elusen 1101255) a'r Alban (rhif elusen SC039681). Mae ein helusen wedi'i chofrestru â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwyr data. Ein rhif cofrestredig yw Z8271579.

At ddibenion y polisi yma, mae unrhyw gyfeiriad at 'ni', 'Stonewall' a 'Stonewall Cymru' yn golygu Stonewall Equality Ltd.

Pam ein bod yn casglu gwybodaeth

I fod yn blaen, mae gwybodaeth (neu ddata) wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud fel sefydliad. Mae'n golygu y gallwn ni weithredu fel elusen a gwneud pethau fel casglu rhoddion, hawlio Rhodd Cymorth, cynnal aelodaeth a rhaglenni grymuso sy'n newid bywydau a chadw mewn cysylltiad â chi fel y gallwch fod yn rhan o'n hymgyrchoedd a'n gweithgareddau. Mae'n ein galluogi ni i gadw cofnod o sut byddai orau gennych chi i ni gysylltu â chi (neu ddim!) fel ein bod yn gwybod sut y dylen ni gysylltu â chi neu beidio.

Sut byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu gennych chi

Y prif ffyrdd y byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth a ddarparwyd gennych chi yw i gwblhau gweithred neu ddarparu cynnyrch neu wasanaeth rydych chi wedi gwneud cais rhesymol amdano. Gall hyn gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i, brosesu rhodd (gan gynnwys hawlio Rhodd Cymorth, pan fyddwch chi wedi gofyn i ni wneud hynny), darparu rhaglenni a hyfforddiant, cynnal rhaglenni aelodaeth a gwaith ymchwil. Byddwn ni hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth i'n helpu ni i ddarparu nwyddau neu wasanaethau rydych chi wedi'u prynu neu ofyn amdanyn nhw ganddon ni.

Gallwn hefyd ddefnyddio'r wybodaeth a ddarparwyd gennych i gysylltu â chi am ein gwaith, oni bai eich bod wedi gofyn yn benodol i ni beidio â gwneud hynny. Ni fyddwn yn anfon negeseuon e-bost na negeseuon testun atoch chi am ein gwaith, oni bai eich bod wedi gofyn yn benodol i ni wneud hynny.

Sut rydyn ni'n casglu gwybodaeth

Rydyn ni'n casglu gwybodaeth pan fyddwch chi:

  • Yn rhoi rhodd i ni, naill ai drwy'r post, ar-lein (naill ai'n uniongyrchol neu drwy wasanaeth rhoi rhoddion trydydd parti, er enghraifft, JustGiving, Virgin Money Giving neu Everyday Hero), dros y ffôn neu drwy neges destun/SMS. Rydyn ni hefyd yn casglu gwybodaeth amdanoch chi pan fyddwch chi'n rhoi rhoddion i ni drwy sefydlu archeb sefydlog neu Ddebyd Uniongyrchol, neu'n rhoi drwy gyflogres (Rhoi Wrth Ennill)
  • Yn dod yn Gyfaill i Stonewall
  • Yn dod yn Llysgennad i Stonewall
  • Yn ymuno â'n rhaglenni cynhwysiant yn y gweithle
  • Yn ymateb i un o'n negeseuon drwy'r post neu drwy e-bost
  • Yn cyflawni gweithred ar gyfer un o'n hymgyrchoedd ar-lein (er enghraifft, llofnodi deiseb)
  • Yn cofrestru i gael yr e-gylchlythyr
  • Yn prynu nwyddau o'n siop ar-lein
  • Yn cofrestru ar gyfer un o'n digwyddiadau cynhwysiant (er enghraifft ein cynadleddau neu raglenni grymuso)
  • Yn cofrestru ar gyfer un o'n digwyddiadau codi arian
  • Yn cofrestru fel gwirfoddolwr neu godwr arian Cymunedol
  • Yn cyflwyno cais ar gyfer y Proud Employers website
  • Submit an application to the Workplace Equality Index (WEI) (For more specific information on these please click the respective index)
  • Agree to or enquire about leaving a legacy, an in-memory or a tribute donation
  • Cookie information when you visit our website
  • Sign up to work with us during a Pride event
  • Interact with us over the phone, or on social media
  • When you apply to work for Stonewall
  • Contact Stonewall through our information service by phone or email
  • Interact with us in some other way

Y ffyrdd na fyddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu gennych chi

Ni fyddwn byth yn gwerthu eich data, ac ni fyddwn byth yn ei rannu â sefydliadau eraill at eu dibenion marchnata nhw eu hunain. Nid ydyn ni'n rhan o unrhyw gynllun cyfnewid data.

Am ba mor hir y bydd y wybodaeth yn cael ei chadw

Fel arfer, fyddwn ni ond yn dal eich data am gyfnod mor hir ag sy'n angenrheidiol. Gall hyn amrywio yn ôl y gweithgarwch mae'r data'n cael ei ddefnyddio ar ei gyfer. Fodd bynnag, rydyn ni'n gwbl ymwybodol o'n rhwymedigaethau o dan y Ddeddf Diogelu Data a'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, ac rydyn ni'n gwneud pob ymdrech i sicrhau ein bod ond yn dal eich data am gyfnod mor hir ag sy'n angenrheidiol.

O ran cofnodion ffisegol, yn ôl cyfraith cwmnïau mae gofyn i ni gadw gwybodaeth am roddion (er enghraifft ffurflenni rhoddion a gohebiaeth) am saith mlynedd (chwe blynedd o ddiwedd y flwyddyn ariannol y caiff ei chasglu), wedi hynny bydd yn cael ei dinistrio'n ddiogel.

Rydyn ni hefyd yn defnyddio cronfa ddata o gefnogwyr i gadw cofnod o unrhyw gyswllt y byddwn yn ei gael gyda chi. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ariannol er enghraifft hanes eich rhoddion i ni neu wybodaeth nad yw'n wybodaeth ariannol, er enghraifft manylion am alwad ffôn i'n tîm gofalu am gefnogwyr. Mae'r wybodaeth yma'n hynod werthfawr i ni at ddibenion codi arian ac adrodd, ac i gael gwell dealltwriaeth o'r amrywiaeth o bobl sy'n cefnogi Stonewall, fel y gallwn gynllunio a threfnu ein hymgyrchoedd a'n hapeliadau yn well.

Gan fod data yn rhan mor allweddol o'n gwaith er mwyn ein galluogi ni i gyflawni ein nodau, rydyn ni wedi penderfynu ar yr amserlen ddargadw ganlynol:

Pan fyddwch chi wedi gwneud cyfraniad neu ymrwymiad ariannol i'n gwaith, fel rhodd, rhodd mewn ewyllys neu fel arall, byddwn yn cadw eich gwybodaeth am gyfnod amhenodol (oni bai eich bod yn gwneud cais fel arall).

Rydyn ni wedi gwneud y penderfyniad yma am ddau reswm – yn gyntaf gan ei fod yn ein helpu i nodi'r cyd-destun ynghylch rhoddion ewyllys. Rheswm arall yw ei bod hi'n werth ailgysylltu â chefnogwyr yn y grwpiau yma, o'n profiad ni.

Pan na fyddwch yn dod o dan un o'r grwpiau yma (er enghraifft, os ydych chi ond wedi llofnodi un o'n deisebau), byddwn yn cadw eich gwybodaeth am gyfnod o amser sydd, yn ein barn ni, yn gymesur â'n nodau busnes a'ch lefel o ymgysylltiad gyda ni.

Wrth gwrs, mae hawl gennych i ofyn i'r wybodaeth honno gael ei dileu o'n cofnodion ar unrhyw adeg, ond cofiwch pan fyddwn ni yn gwneud hynny, byddwn yn colli eich holl ddewisiadau, gan gynnwys ceisiadau i optio allan o fathau penodol o gyfathrebiadau. Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau isod.

Marchnata, proffilio a sgrinio

Fel elusen sy'n buddsoddi'n gyfrifol mewn codi arian, rydyn ni'n cynnal nifer o raglenni i godi arian gan unigolion. Mae hyn yn cynnwys anfon llythyron a mathau eraill o bost, e-bost, eich ffonio chi ac anfon negeseuon testun. Mae'r gyfraith yn amrywio yn ôl y dull rydyn ni'n ei ddefnyddio i gysylltu â chi, ond yn unol â'n rhwymedigaethau o dan Ddeddf Diogelu Data 1988, y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol a'r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Cyfarwyddeb y Comisiwn Ewropeaidd) 2003, gallwn gysylltu â chi drwy'r dulliau canlynol:

Drwy'r post: rydyn ni'n anfon post i'n cefnogwyr ac eithrio pan fyddwch chi wedi dweud yn benodol wrthon ni nad ydych am dderbyn post ganddon ni.

Mae'r llythyrau rydyn ni'n eu hanfon yn cynnwys apeliadau post sy'n canolbwyntio ar wahanol elfennau o'n gwaith. Rydyn ni hefyd yn dosbarthu ein cylchgrawn i gefnogwyr, sy'n rhoi rhagor o wybodaeth am ein gwaith. Gallwn ni hefyd gysylltu â chi am y gwahanol ffyrdd y gallwch chi ein cefnogi, er enghraifft drwy godi arian, dod i un o'n rhaglenni neu drwy adael rhodd mewn ewyllys. Mae gennych yr hawl i ddweud wrthon ni pa fath o lythyron rydych chi am eu derbyn ganddon ni (er enghraifft, os byddai'n well gennych dderbyn ein hapeliadau post yn unig neu os nad ydych am dderbyn ein cylchgrawn i gefnogwyr). Os ydych am drafod eich dewisiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Os ydych am stopio cael llythyron drwy'r post ganddon ni, gallwch naill ai roi gwybod i ni neu optio allan drwy'r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian. Ein nod yw gweithredu eich cais o fewn 3 diwrnod gwaith o'i dderbyn, ond gall gymryd hyd at 28 diwrnod o'r dyddiad rydych chi'n anfon eich cais cyn y byddwch yn stopio cael llythyron ganddon ni.

E-bost: rydyn ni'n anfon llawer o hysbysiadau dros e-bost er mwyn rhoi gwybod i chi am ein gwaith, a rhoi gwybod i chi sut y gallwch chi helpu.

Fyddwn ni ond yn anfon negeseuon e-bost marchnata pan fyddwch chi wedi cydsynio'n benodol i'w derbyn nhw, a gallwch dad-danysgrifio ar unrhyw adeg, naill ai drwy roi gwybod i ni neu drwy glicio'r ddolen dad-danysgrifio ar waelod pob e-bost marchnata rydyn ni'n ei anfon. Gallwch hefyd optio allan drwy'r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian.

Y ffordd fwyaf effeithiol o optio allan o dderbyn negeseuon e-bost marchnata yw drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio ar waelod pob neges, gan fod hyn yn digwydd yn syth. Pan fyddwch chi'n defnyddio dull arall o optio allan o dderbyn negeseuon e-bost marchnata (er enghraifft drwy ein ffonio ni), gall hyn gymryd mwy o amser i weithredu, er ein bod yn anelu at gyflawni eich ceisiadau optio allan o fewn 3 diwrnod gwaith o'u derbyn, ond gall gymryd hyd at 28 diwrnod o ddyddiad eich cais cyn i chi stopio derbyn ein negeseuon e-bost.

Ffôn: o'n profiad ni, mae codi arian dros y ffôn yn ffordd effeithiol iawn o gysylltu â'n cefnogwyr, felly mae'n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi o dro i dro i roi gwybod am ffyrdd eraill o gefnogi ein gwaith os byddwch wedi rhoi eich rhif ffôn i ni. Gall galwadau gael eu recordio at ddibenion hyfforddi a sicrhau ansawdd.

Ar hyn o bryd, rydyn ni'n ffonio ein cefnogwyr sydd wedi nodi eu bod yn fodlon i ni gysylltu â nhw dros y ffôn, gyda rhai eithriadau. Yr eithriadau yma yw pan fyddwch chi wedi dweud yn benodol wrthon ni nad ydych am gael galwadau ganddon ni, neu pan fyddwch wedi cofrestru â'r Gwasanaeth Dewisiadau Ffonio (TPS). Nodwch, byddwn bob amser yn gwirio a ydych chi wedi cofrestru â'r Gwasanaeth Dewisiadau Ffonio cyn eich ffonio am unrhyw weithgarwch marchnata oni bai eich bod wedi dewis yn benodol i dderbyn galwadau ffôn ganddon ni.

Gallwch ddewis optio allan o dderbyn galwadau ffôn ganddon ni drwy roi gwybod i ni, neu gallwch optio allan drwy'r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian.

Rydyn ni'n gwneud pob ymdrech i weithredu ceisiadau optio allan mor fuan â phosibl, ond rydyn ni'n cynhyrchu ffeiliau galwadau ffôn o flaen llaw er mwyn arbed costau. Byddwn yn gweithredu ceisiadau i'ch tynnu oddi ar restrau ffonio o fewn 3 diwrnod gwaith, ond gall gymryd hyd at 28 diwrnod o ddyddiad eich cais cyn i chi stopio derbyn ein galwadau.

Negeseuon testun: pan fyddwch wedi darparu rhif ffôn symudol, mae'n bosib y byddwn hefyd yn anfon negeseuon testun atoch chi am ein gwaith, ond dim ond pan fyddwch wedi gofyn yn benodol i ni wneud hynny.

Os hoffech optio allan, gallwch naill ai ymateb i'r neges gyda chais i optio allan, neu roi gwybod i ni neu optio allan drwy'r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian. Caiff ceisiadau i optio allan o dderbyn negeseuon testun eu gweithredu ar unwaith, fel arall, rydyn ni'n anelu at weithredu ceisiadau optio allan o fewn 3 diwrnod gwaith, ond gall gymryd hyd at 28 diwrnod o ddyddiad eich cais cyn i chi stopio derbyn ein negeseuon testun.

Proffilio

Er mwyn gwneud ein negeseuon yn fwy perthnasol i chi, gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn creu proffil o'ch diddordebau a'ch dewisiadau. Mae hyn yn golygu y gallwn ddefnyddio darnau o'r wybodaeth rydych chi wedi'i rhoi i ni'n uniongyrchol (er enghraifft eich oedran neu leoliad) neu eich ymddygiad (hanes eich rhoddion, gan gynnwys y swm, pa mor aml, a'r dull o roi, neu unrhyw waith ymgyrchu rydych chi wedi'i wneud, gan gynnwys llofnodi deisebau) i greu proffil. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth i ni o'n cefnogwyr ac yn ein helpu ni i sicrhau, pan fyddwn yn cysylltu â chi, neu'n gofyn i chi weithredu ar ein rhan, ein bod yn gwneud hynny mewn modd sy'n berthnasol ac wedi'i deilwra i chi.

Mae hyn yn ein galluogi ni i adnabod cefnogwyr sy'n debygol o fod yn gallu ein helpu ni naill ai mewn ffordd ariannol neu fel arall, ac mae hefyd yn ffordd effeithiol i ni wneud y mwyaf o'n cyllideb farchnata, fel y gallwn wthio ein hachos ymhellach gyda'r adnoddau sydd ar gael i ni.

Rydyn ni'n ystyried hyn yn un o'n buddiannau teg, a thrwy hynny rydyn ni wedi ystyried ein sefyllfa yn ofalus iawn er mwyn sicrhau bod unrhyw weithgarwch yn cael ei wneud mewn modd teg a chytbwys, gan roi ystyriaeth i'ch hawliau chi fel unigolyn. Mae hawl gennych i optio allan rhag i'ch gwybodaeth gael ei defnyddio er mwyn proffilio, ac mae gwybodaeth ynghylch sut i wneud hynny ar ddiwedd yr adran yma.

Sgrinio

Yn ogystal, fel rhan o'n buddiannau teg, rydyn ni wedi ystyried bod sgrinio yn ffordd effeithiol i ni sicrhau ein bod yn cysylltu â chi gyda negeseuon priodol a pherthnasol. Rydyn ni'n gweithredu amrywiaeth o raglenni gwahanol er mwyn sicrhau cefnogaeth ac rydyn ni am wneud yn siŵr bod unrhyw gais i'n cefnogwyr yn cael ei wneud mewn modd priodol. Yn hynny o beth, rydyn ni'n defnyddio cwmnïau sgrinio cyfoeth trydydd parti sy'n cyfuno gwybodaeth ganddon ni â gwybodaeth gyhoeddus er mwyn ein helpu i bennu pa rai o'n rhaglenni cefnogwyr sy'n gweddu orau i gefnogwr penodol. Er bod hyn yn ffurfio rhan hanfodol o'n strategaeth er mwyn sicrhau incwm gwirfoddol, mae hawl gennych chi i optio allan rhag i'ch gwybodaeth gael ei sgrinio, ac mae manylion ynghylch sut i wneud hynny ar ddiwedd yr adran yma.

Gwybodaeth gyhoeddus

Fel rhan o'n gwaith, byddwn o dro i dro yn cynnal gwaith ymchwil ein hunan er mwyn canfod unigolion sydd yn llygaid y cyhoedd a all fod â diddordeb mewn cefnogi Stonewall, ac er mwyn cael dealltwriaeth ychwanegol o gefnogwyr presennol sydd yn ffigurau cyhoeddus. Mae'r ymarferiad yma, sy'n cael ei alw'n waith ymchwil desg, yn defnyddio gwybodaeth gyhoeddus sydd ar gael drwy ffynonellau er enghraifft, rhestrau o gyfoethogion sydd wedi'u cyhoeddi, papurau newydd a gwefannau corfforaethol, sy'n ein cynorthwyo i ddod o hyd i roddwyr mawr newydd, noddwyr digwyddiadau, partneriaethau corfforaethol, siaradwyr mewn digwyddiadau a chyfleoedd am sylw yn y cyfryngau.

Gallwn hefyd gynnal gwaith ymchwil desg yn y meysydd canlynol: darpar sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector a allai fod â diddordeb mewn ymuno â'n rhaglenni gweithle. O dro i dro gallwn gysylltu â darpar ysgolion a allai fod â diddordeb mewn dod i un o'n sesiynau darparu rhaglenni ac yn eu tro i ymuno â'n rhaglen addysg.

Eich hawliau – optio allan o sgrinio a phroffilio

Mae hawl gennych i optio allan rhag i'ch gwybodaeth gael ei defnyddio ar gyfer unrhyw fath o broffilio a sgrinio. Os hoffech wneud hynny, anfonwch gais naill ai i supporter.care@stonewall.org.uk neu ffoniwch ni ar 020 7593 2291

Rhannu gwybodaeth

Fel bod modd i ni ddarparu'r lefel uchel o wasanaeth rydyn ni'n ymfalchïo ynddi, ac er mwyn gwneud y gorau o'r adnoddau sydd ar gael i ni, rydyn ni'n gweithio gyda nifer o ddarparwyr sydd wedi'u contractio ganddon ni i'n helpu ni i gyflawni nifer o dasgau pwysig. Gall hyn gynnwys anfon post neu wneud galwadau ffôn, prosesu a bancio rhoddion ac anfon llythyron diolch. O ganlyniad, pan fyddwch yn delio â ni, gallwch ddisgwyl i'ch gwybodaeth gael ei rhannu gyda'r darparwyr sy'n cael eu contractio gennym ni mewn modd diogel.

Mae'r holl ddarparwyr yma wedi cytuno i drin gwybodaeth mewn modd cyfrinachol a diogel yn unol â'n cyfarwyddiadau. Maen nhw i gyd wedi bod drwy broses fetio ac rydyn ni'n gwneud gwiriadau interim er mwyn sicrhau bod eu prosesau'n parhau yn ddiogel ac yn gadarn. Ni fydd y sefydliadau yma'n defnyddio eich manylion i ddibenion sydd y tu allan i gwmpas ein cyswllt ni gyda nhw.

Ar yr un pryd, rydyn ni'n defnyddio systemau cwmwl (gweinyddion e-bost, darparwyr gwasanaethau a chronfeydd data wedi'u lletya) er mwyn ein helpu ni i ddarparu'r profiad cefnogwyr gorau posibl. Er mai personél Stonewall yn unig sy'n gallu cyrchu'r systemau yma, mae'r wybodaeth sydd ynddynt yn cael ei storio'n ddiogel ar y safle ac oddi arno.

Mae'r darparwyr a'r systemau rydyn ni'n eu defnyddio yn gallu bod mewn gwledydd eraill, sy'n gallu bod tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Mewn achosion o'r fath, rydyn ni bob amser yn sicrhau bod dulliau diogelu digonol ar waith i warchod eich hawliau drwy gytundebau amodol gyda'r darparwyr yma.

Diogelwch

Rydyn ni wedi rhoi mesurau helaeth ar waith i warchod eich gwybodaeth, ar-lein ac all-lein. Fel sefydliad, rydyn ni'n cydymffurfio â PCI-DSS ac wedi rhoi polisïau a gweithdrefnau llym ar waith er mwyn sicrhau ein bod yn trin, yn prosesu, ac yn storio data mewn modd diogel, ar-lein ac all-lein.

O ran ein systemau rheoli trosglwyddo, caiff yr holl wybodaeth sy'n cael ei throsglwyddo i ni ei throsglwyddo mewn modd diogel, gan ddefnyddio technolegau sy'n safonol i'r diwydiant. Yn ogystal â hyn, caiff taliadau cardiau ar-lein eu trin yn ddiogel gan ein partneriaid, a chaiff yr holl wybodaeth talu ar-lein ei storio'n ddiogel ganddyn nhw. Mae ein rhwydwaith technoleg gwybodaeth wedi'i diogelu gan nifer o ddulliau diogelu gan gynnwys waliau tân a meddalwedd gwrthfeirws sy'n cael eu diweddaru a'u diogelu'n rheolaidd rhag maleiswedd a meddalwedd wystlo. Caiff cyfrineiriau i'r rhwydwaith eu newid yn rheolaidd ac mae'r holl staff wedi'u hyfforddi mewn materion gwarchod data.

Mae protocolau diogelwch y partneriaid sydd wedi'u contractio ganddon ni (y cyfeirir atynt yn yr adran uchod) yr un mor gadarn, a chânt eu gwirio a'u monitro fel rhan o'n proses fetio. Mae rhagor o wybodaeth am safonau diogelwch ein partneriaid ar gael yn eu polisïau preifatrwydd. Cysylltwch â ni am fanylion.

Cwcis

Darnau bach o god sy'n cael eu llwytho ar eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol pan fyddwch yn ymweld â gwefan yw cwcis, sy'n ein galluogi ni i adnabod eich dyfais pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan eto. Rydyn ni'n defnyddio cwcis i fonitro statws ein gwefan ac i sicrhau ei bod yn rhedeg yn effeithlon, ac rydyn ni hefyd yn defnyddio cwcis i gofio eich dewisiadau. Mae cwcis yn anhysbys ac nid ydynt yn gysylltiedig ag unrhyw wybodaeth bersonol.

Mae rhagor o wybodaeth am ein defnydd o gwcis ar gael yn ein Polisi Cwcis.

Eich hawliau

Fel elusen, rydyn ni wedi llunio'r polisi yma er mwyn rhoi mwy o reolaeth i chi o safbwynt eich gwybodaeth a sut y byddwn ni'n ei defnyddio. Wrth ystyried y gyfraith yn y maes yma, mae gennych chi hawliau penodol ynghylch gweld y wybodaeth sydd ganddon ni amdanoch chi, cywiro gwybodaeth os oes angen, a gofyn i ni ddileu gwybodaeth os ydych chi'n dymuno hynny.

Yn ogystal â hyn, mae gennych hawl i ofyn i ni beidio â defnyddio gwybodaeth sydd ganddon ni amdanoch chi at ddibenion sgrinio neu broffilio, ac mae hawl gennych i ddiweddaru eich dewisiadau cyfathrebu marchnata a chodi arian. Gallwch wneud hyn drwy naill ai optio mewn neu optio allan.

I weithredu ar unrhyw rai o'ch hawliau, cysylltwch â ni.

Cyrchu'r wybodaeth sydd ganddon ni amdanoch chi (Cais Gwrthrych am Wybodaeth)

Mae hawl gennych i wneud cais am gopi o'r wybodaeth sydd ganddon ni amdanoch chi. Gelwir hwn yn Gais Gwrthrych am Wybodaeth.

Er mwyn gwneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth, dylech ysgrifennu at:

Data Protection Officer
Stonewall Equality Ltd
192 St John Street
London
EC1V 4JY

Mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen er mwyn hwyluso eich cais, i brofi pwy ydych chi neu i ddarparu rhagor o fanylion am eich cais.  

Rydyn ni'n anelu at gwblhau eich cais o fewn 30 diwrnod i'w dderbyn. Mae'n bosibl y byddwn yn ymestyn y cyfnod i ddau fis pellach pan fydd ceisiadau yn gymhleth neu'n niferus. Os digwydd hynny, byddwn yn rhoi gwybod i chi o fewn mis i dderbyn eich cais ac yn esbonio pam mae angen amser ychwanegol.

Cywiro'r wybodaeth sydd ganddon ni amdanoch chi

Mae hawl gennych hefyd i gywiro'r wybodaeth sydd ganddon ni amdanoch chi, er enghraifft, os ydych chi wedi newid eich cyfeiriad neu'ch rhif ffôn.

Rydyn ni'n anelu at gyflawni'r mathau yma o geisiadau o fewn wythnos i'w derbyn.

Dileu'r wybodaeth sydd ganddon ni amdanoch chi

Mae hawl gennych i ofyn i ni ddileu'r wybodaeth sydd ganddon ni amdanoch chi. Er bod dyletswydd arnon ni i gydymffurfio â'ch cais, mae hyn yn wahanol i optio allan ac mae'n golygu y byddwn yn dileu ein holl hanes cyfathrebu gyda chi, i'r graddau mae ein rhwymedigaethau cyfreithiol yn caniatáu. Byddwn hefyd yn colli eich holl ddewisiadau hanesyddol, gan gynnwys dewisiadau optio allan neu ddad-danysgrifio. Os byddwch yn ail-gysylltu â ni yn y dyfodol, ni fydd ganddon ni unrhyw gofnod o'ch dewisiadau blaenorol ac mae'n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi yn ôl y rheolau rydyn ni wedi'u pennu yn y polisi yma.

Yn unol â'n rhwymedigaethau cyfreithiol, mae gofyn i ni gadw pob gwybodaeth am roddion am gyfnod o saith mlynedd (chwe mlynedd o ddiwedd y flwyddyn ariannol y cafodd ei chasglu). Os byddwch am i ni ddileu y wybodaeth sydd ganddon ni amdanoch chi, byddwn yn fwy na bodlon gwneud hynny a chadw'r isafswm angenrheidiol o wybodaeth amdanoch chi er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau statudol.

Optio allan o dderbyn cyfathrebiadau codi arian a phroffilio/sgrinio

Hyd yn oed os ydych chi wedi cydsynio i dderbyn cyfathrebiadau marchnata, mae hawl gennych hefyd i dynnu'r cydsyniad yn ôl (optio allan) ar unrhyw adeg. Rydyn ni'n anelu at gyflawni ceisiadau o'r math yma o fewn 3 diwrnod gwaith o'u derbyn. Fodd bynnag, gan ein bod yn briffio ac yn paratoi ein negeseuon o flaen llaw, gall gymryd hyd at 28 diwrnod o ddyddiad eich cais cyn i ni stopio cysylltu â chi.

Yn yr un modd, mae hawl gennych i wrthwynebu unrhyw brosesu ganddon ni ar sail ein buddiannau teg rhag digwydd, gan gynnwys unrhyw weithgarwch proffilio neu sgrinio rydyn ni'n ei gynnal naill ai'n uniongyrchol neu drwy un o'n partneriaid.

Sut i gysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni drwy'r dulliau canlynol:

Drwy'r post:

Supporter Care Team
Stonewall Equality Ltd
192 St John Street
London
EC1V 4JY

Drwy e-bost: supporter.care@stonewall.org.uk

Drwy ffonio: 020 7593 2291

Diweddariadau i'r polisi yma

Gall Stonewall ddiweddaru'r polisi yma o dro i dro. Os byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i'r polisi hwn byddwn yn rhoi gwybod i chi, os yw'r caniatâd ganddon ni i wneud hynny. Byddwn hefyd yn ei gwneud hi'n glir ar ein gwefan ein bod wedi diweddaru ein telerau.

Diweddarwyd y polisi yma ddiwethaf ym mis Mai 2018. Rhif y fersiwn yw v1.0.