Mae Stonewall Cymru yn credu yng ngrym straeon a’u gallu i ysbrydoli unigolion a grymuso pobl i greu newid. Mae'r canllaw hwn yn adrodd hanesion pobl LHDT o ystod eang o gefndiroedd, sydd wedi rannu eu profiadau o fod yn LHDT yn eu gweithleoedd, eu teuluoedd a'u cymunedau. Nod y canllaw yw tynnu sylw at amrywiaeth y gymuned LHDT, a dangos na ddylai bod yn chi eich hun byth fod yn rhwystr i lwyddiant.
Dyma restr lawn o'r rhai a gydnabyddir yng Nghanllaw Model Rôl eleni:
- Caroline Bovey, Deietegydd
- Delyth Liddell, Gweinidog Methodistaidd, Caplan Cydlynu
- Selena Caemawr, Ymgyrchydd, Entrepreneur ac Awdur
- Marc Rees, Arlunydd
- Sarah Lynn, Rheolwr Prosiectau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
- Phil Forder, Rheolwr Carchar
- Numair Masud, Ymchwilydd Biowyddoniaeth
- Samantha Carpenter, wedi lled ymddeol
- Megan Pascoe, Rheolwr Ymgysylltu Busnes
- Elgan Rhys, Awdur-Cyfarwyddwr-Perfformiwr